Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Tirlun Clasurol
Treuliodd Thomas Jones ddwy flynedd yn hyfforddi yn stiwdio Richard Wilson, er ei fod yn cyfaddef yn ei 'Memoirs' iddo wastraffu llawer o amser gyda "miri a chwarae gwamal". Mae'r tirlun bach glasurol hwn yn dangos ôl dylanwad ei feistr yn glir. Ond, yn wahanol i lawer o olygfeydd Eidalaidd Wilson, nid yw'r darlun hwn yn dwyn Rhufain i'r cof - atgofion o Gymru sydd yn y castell, yr afon droellog a'r creigiau.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.