Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Knocker churn
Buddai ar ffurf casgen derw a gwaelod fflat iddi sy'n culhau'n raddol tuag at coler wedi ei wneud o onnen. Defnyddid y 'cnociwr' neu'r 'ordd', sef y ffon goes-hir gyda darn o bren fflat gyda tyllau ar ei waelod, a'i weithio i fyny ac i lawr drwy dwll yng ngwaelod y fuddai.
Fe'i defnyddiwyd dros fisoedd y gaeaf ym Mhenrhiw, Salem, pan oedd llefrith yn brin, tua 1900
Ceir amrywiadau ar yr enw o ardal i ardal:
buddai gnoc (ardal Aberteifi, Gwynedd a sir Dinbych) budde bwmp (ardaloedd Rhydlewis ac Aberteifi) budde dwmp (ardaloedd yr hen sir Frycheiniog, Dwyrain Morgannwg a Chaerfyrddin) budde ffusto a budde gnap (Dwyrain Morgannwg) budde gordd (Gorllewin Morgannwg)