Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Campbell gas engine from Llandrindod Wells
Defnyddid yr injan nwy un-silindr anferth hon i yrru pwmp ram tri-thrawiad oedd yn codi dŵr 280 o droedfeddi o Afon Ithon i gronfa yn gwasanaethu Llandrindod. Gwaith Cwmni Campbell o Halifax ydyw a threuliodd ei bywyd gweithio o 1914-1967 yn Llandrindod. Crewyd y nwy a ddefnyddid yn danwydd trwy losgi glo carreg. Cyn dechrau’r injan roedd cymysgedd o aer a nwy yn cael ei sugno i mewn i’r silindr â llaw a phan oedd yr amgylchiadau’n addas, cyneuid y gymysgedd â channwyll. Am gyfnod byr yn niwedd y pedwardegau cafodd y Tubal Cain Company o Geardydd drwydded i wneud rhai’r un fath â’r injan hon sy’n ddisgynyddion uniongyrchol o’r injan nwy hon. (Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984).
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.