Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Certificate
Tystysgrif dewrder a gyflwynwyd i Mr Owen William Humphreys.
Ar yr 8fed o Fedi 1966 Mr Eric Lyall (Stiward yn Chwarel Dinorwig) oedd y person olaf i gael ei ladd mewn damwain yn Chwarel Dinorwig. Syrthiodd Mr Lyall 120 troedfedd wrth geisio rhyddhau bloc mawr o lechen o wyneb y graig, ac o ganlyniad torrodd ei benglog. Ar adeg ei farwolaeth roedd Mr Lyall yn 45 oed, ac yn dad i dri o blant (20, 17, a 10 oed). Fe beryglodd Mr Owen William Humphreys (oedd hefyd yn stiward yn Chwarel Dinorwig) ei fywyd ei hun trwy geisio achub Mr Lyall.
Yn dilyn y ddamwain, enwebwyd Mr O.W. Humphreys am wobr dewrder, a derbyniodd ‘Dysteb Er Anrhydedd ar Felwm’ gan y Gymdeithas Ddyngarol Frenhinol (Honorary Testimonial on Vellum by the Royal Humane Society).
Sefydlwyd y Royal Humane Society yn Llundain ym 1774 gan William Hawes a Thomas Cogan, a oedd yn awyddus i hybu technegau achub bywyd. Daeth yn amlwg bod pobl yn peryglu eu bywydau eu hunain wrth achub eraill a rhoddwyd gwobrau i gydnabod y gweithredoedd dewr hyn. Dyna yw pwrpas y gymdeithas hyd heddiw. Mae'r gwobrau a roddwyd ar gyfer gweithredoedd o ddewrder yn cynnwys medalau efydd, arian ac aur a Thystebau ar Felwm neu Femrwn. Dyfernir y Dysteb ar Felwm pan mae rhywun wedi rhoi ei hun mewn perygl sylweddol i achub, neu geisio achub, rhywun arall.