Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Walker fan engine ex. Navigation Colliery, Crumlin
Bu’r injan hon unwaith yn gyrru gwyntyll awyr o faint cymharol. Fe’i hadeiladwyd gan y Brodyr Walker o Wigan yn 1912, ac mae’n cynrychioli pen eithaf datblygaid yr injan ager o ran cynildeb a chysondeb. Gallai redig yn ddibaid am flwyddyn neu fwy heb stopio. Oherwydd y posibilrwydd o ffrwydrad wrth i nwy grynhoi roedd system awyru ddibynadwy yn rheidrwydd dan ddaear. Roedd cynildeb hefyd yn ffactor bwysig am fod yr injan yn rhedeg yn barhaus. Mewn un math mae’r stêm yn chwyddo dair gwaith rhwng gwasgedd uchel ac isel mewn silindrau â gêr falf Corliss ynddyn nhw. Yn wahanol i’r peiriannau oedd yn dirwyn caetsus y glowyr i fyny ac i lawr y siafft, roedd y rhain yn rhedeg ar gyflymder cyson, ac felly doedd gan yrrwr yr injan wyntyll y nesaf peth i ddim i’w wneud ar wahân i ofalu am iryddion yr olew. Defnyddid nifer o raffau i yrru’r wyntyll. Pe bai un ohonyn nhw’n torri, byddai’n lleill yn parhau i droi hyd nes y byddai’n gyfleus i stopio’r peiriant ar gyfer ei atgyweirio. Cedwid ystafell beiriannau’r gwaith fel rheol yn hynod o lân. Gweithiai’r injan hon ynh Ngwaith Glo’r Navigation hyd 1967. (Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984).