Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Book binding
Crëwyd y rhwymiad llyfr gweddi personol hwn ar gyfer y gwleidydd a'r beirniad pensaernïol, Syr Alexander James Beresford Beresford Hope, un o noddwyr amlycaf William Burges. Mae wedi'i osod mewn ifori gyda stydiau gilt arian ar ffurf rhosglymau Tuduraidd ac enamlo tebyg i emau. Yn addurn ychwanegol ar y rhosglwm canol mae bwystfil mytholegol tra bo'r llythrennau AH ac IH yn addurno'r gweddill. Mae gan y rhwymiad ddau glasbyn ar lun draig addurniedig gyda tharian ag arni arfbais ac arwyddair y teulu Hope.