Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Stole
''Rhan o draddodiad byddin Prydain yw bo chi’n cynnal gwasanaeth ar y noson cyn ymgyrch. Ma hwnna’n gyfle i bawb aros yn llonydd am funud ar ddiwedd eu holl baratoi, i ymdawelu ac i feddwl am rywbeth sydd tu allan i’r hyn man nhw’n gwneud ar faes y gad.
Mi roedd rheina yn wasanaethau oedd o fudd i mi’n bersonol ac i’m milwyr i. Achos odd e’n gyfle nid yn unig i weddïo dros eich gilydd, ond hefyd i gofio am y gelyn, i gofio am eich teulu gartre, i gofio am y wlad oeddech chi’n ei chynrychioli a’r llywodraeth a oedd fel arfer wedi eich danfon chi ar ymgyrch yn y lle cyntaf.'' (Aled Huw Thomas)