Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Corineus a Goemagot
Ganed Griffith yn Sir Benfro, ac yn 14 oed dechreuodd weithio fel prentis ar waith adfer Eglwys Gadeiriol Llandaf. Symudodd wedyn i Lundain ond cadwodd gysylltiad agos â Chymru. Mae Corineus a Goemagot yn gymeriadau yn 'Historia Britonum ', gwaith a luniwyd gan Sieffre o Fynwy yn y 12fed ganrif ac a gynhwysai lawer o chwedlau Celtaidd. Disgynnydd i alltudion o Gaerdroea oedd Corineus, a deithiodd i Loegr gan gipio rhannau helaeth o Gernyw ar ôl lladd cewri Cernyw i gyd. Goemagot oedd yr olaf ohonynt, a threchwyd ef yn y diwedd mewn cystadleuaeth ymaflyd codwm. Roedd y testun hwnnw'n gyfle i Griffith bortreadu dau ddyn noeth mewn ystumiau anodd, yn ogystal â ddangos ei wybodaeth o'r chwedlau Celtaidd. Hwn oedd un o'r gweithiau cyntaf i ddod yn eiddo i gorff cyhoeddus yng Nghaerdydd.