Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Gloria Allen
Ganed Gloria Evans yn Ionawr 1940 yn Kingston, Jamaica.
Teiliwr oedd ei thad. Roedd gan ei rhieni naw o blant, a Gloria oedd y trydydd plentyn a’r unig ferch. Daeth i Gymru yn 19 mlwydd oed i ddilyn gyrfa nyrsio.
“Fe ddechreuais i yn yr ysgol Sul Anglicanaidd ac yna yn ysgol yr eglwys... wedyn ysgol Denham ond ar ôl y corwynt, newidiodd pethau. Roedd popeth a’i ben i lawr, roedd yn rhaid imi newid ysgol ac aeth pethau’n anodd braidd... roedd popeth wedi’i amharu arno, roedd fy nhad yn adnabyddus ond fe arafodd pethau, ond aeth bywyd yn ei flaen.”
“Fy nhad ddaeth i’r Deyrnas Unedig gyntaf, roeddwn i’n 19 oed pan ddois i. Nyrs oeddwn i eisiau bod erioed, ac fe roddodd Duw fy nymuniad imi. Fe ddois yma ac astudio nyrsio a bydwreigiaeth.”
“Fe wnes i fy hyfforddiant ymarferol yn Ysbyty Book General, Shooters Hill, a fy hyfforddiant bydwreigiaeth yn Ysbyty Dewi Sant. Fe briodais i yn 1961 ac yna symud i Gaerdydd yn 1963... fe gawson ni dri o blant. Dyw’r teimlad o fod yn Jamaicaidd erioed wedi fy ngadael i. Yn yr ysbyty, roedd llawer o hiliau gwahanol, a doedd y newid ddim yn fy mhoeni. Rwy’n credu mod i’n berson sy’n gallu addasu.”
“Roeddwn i wedi bwriadu dychwelyd i Jamaica wedi i’r plant orffen tyfu, ond wrth i amser fynd yn ei flaen, weithiau mae’n rhaid inni gyfaddef nad yw ein syniadau gwreiddiol yn gweithio allan fel roedden ni’n disgwyl. Rhaid inni fod yn fodlon addasu yn ôl y galw.”
“Wrth edrych yn ôl, weithiau roeddwn i’n teimlo’n unig iawn, a’r eglwys, y ddysgeidiaeth, roedden nhw’n egwyddorion naturiol ac ysbrydol sy’n rhan annatod o fy enaid er gwaethaf caledi ofnadwy. Trwy ras Duw, roeddwn i’n ceisio aros yn berson gonest.”