Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Cwch yn rhydu ym Môr Caspia, Azerbaijan
Wedi ei ysgrifennu ar gefn y gwaith hwn: "Tynnais y llun yma pan oeddwn i’n gweithio ar fy mhroject The Middle Distance. Roedd yna gwch allan ym Môr Caspia ar arfordir Azerbaijan. Roedd y project yn ymwneud â menywod ac roeddwn i’n ymchwilio ac yn gweithio ar lawer o straeon bach gwahanol am fenywod yn y rhanbarth. Ond rhwng gweithio ar y straeon hynny, byddwn hefyd yn crwydro’r ardal gyda fy nghamera. Fe wnes i gymaint o waith o'r daith honno, felly mae 'na lot o ddelweddau — fel yr un yma — dw i wastad wedi eu hoffi ond doedden nhw ddim yn amlwg yn ffitio mewn i'r pwnc." — Olivia Arthur