Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Fâs Gwrbwynt Mewn Deuddeg Arlliw
Mae Fâs Gwrthbwynt mewn Deuddeg Arlliw yn esiampl gynnar o’r ysbrydoliaeth gerddorol, yr hyn a wnaeth grochenwaith Fritsch mor drawiadol a dylanwadol ddechrau’r 1970au. Roedd cerddoriaeth yn rhan annatod o aelwyd ei phlentyndod, ac wedi astudio’r piano a’r delyn i safon uchel, dyma fu’r dylanwad mwyaf a mwyaf hirhoedlog ar ei gwaith. Mae termau theori gerddorol yn sail gadarn i’w gwaith ac mae'n esbonio bod ‘ffurf darn neu grwp o ddarnau yn cyfateb i guriad a rhythm cerddoriaeth; y ffigurau rhythm yn y peintiad yw’r tempo a’r rhythm tra bod lliw’n cyfateb i harmoni a thrawsgyweiriad.’ Mae gridiau crwm yn dilyn ffurf y llestr â manyldeb mathemategol sy’n ‘cyfateb i nod amser mewn cerddoriaeth. Newidir y ffigurau rhythm a seilir ar y gridiau yma gan ffurf y llestr gan bwysleisio ei strwythur dynamig.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.