Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Tabernacl y Sagrafen
Mae'r tabernacl marmor hwn ar gyfer bara a gwin y sagrafen yn dangos arfau'r teulu Vettori. Mae'n debyg iddo gael ei wneud ychydig cyn 1461 ar gyfer eu capel yn Santa Maria alle Campora y tu allan i Fflorens. Mae Duw y Tad yn edrych i lawr ar yr Ysbryd Glan a'r angylion yn addoli. Islaw mae dau angel yn cynnal y Sagrafen ac eryr Sant Ioan yn sefyll ar yr Efengylau. Mae'r arysgrif sy'n llenwi'r blwch lle byddai'r bara a'r gwin yn cofnodi rhoi'r tabernacl i eglwys Nynehead, Gwlad yr Haf gan y Parchedig John Sandford (1777-1855), a oedd yn ficer yno ym 1811-18. Treuliodd Sandford y cyfnod o 1832-37 yn Fflorens a chyflwynodd y tabernacl ym 1833 ynghyd â phanel o Grist y Prynwr gan Francesco Granacci a welir hefyd yn Oriel 10. Mae'r arysgrif uwchben yr eryr, OPUS MINO DA FIESOLE 1483, sy'n priodoli'r tabernacl i'r cerflunydd Mino da Fiesole o Fflorens, yn ychwanegiad o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.