Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Gwlad Pwyl, Cenedl
Mae rhyfelwr Hwsâr ifanc o Wlad Pwyl mewn gwisg draddodiadol ac arfwisg adeiniog lled-Ddwyreiniol, yn sychu’i gleddyf. Gorwedda eryr du yn gelain wrth ei draed wrth i eryr gwyn y Pwyliaid esgyn, yn rhydd unwaith eto. Mae’r amlinelliad o goeden yn ein hatgoffa o goed noeth tir neb. Disgrifiwyd yr olygfa alegorïaidd fel ‘camp ddigamsyniol’ gan un newyddiadurwr.
Ganwyd Dulac yn Toulouse, Ffrainc a chyn troi at gelf bu’n astudio’r gyfraith. Symudodd i Brydain ym 1904, a dod yn adnabyddus fel darlunydd llyfrau cain. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gwnaeth ddarluniau ar gyfer sawl rhodd-lyfr a grëwyd i godi arian at y rhyfel, a chafodd ei gyflogi gan y Weinyddiaeth Wybodaeth i greu propaganda darluniadol.
Mae’r gwaith hwn yn rhan o bortffolio The Great War: Britain's Efforts and Ideals, gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r Frwydr.