Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Rachel Morgan
Recordiad hanes llafar Cymraeg gyda Rachel Morgan, Tre-lech a'r Betws. Fe'i ganwyd yn Rhoscrugebolion, Trelech a'r Betws. Pwrpas y recordiad oedd casglu gwybodaeth am hanes gwneud bara ers talwm. Recordiad hanes llafar Cymraeg gyda Rachel Morgan, Tre-lech a'r Betws. Fe'i ganwyd yn Rhoscrugebolion, Trelech a'r Betws. Pwrpas y recordiad oedd casglu gwybodaeth am waith morwyn fach ers talwm. Rhan 4 o 4 (AV 2491/1, AV 2492/1, AV 2493/1, AV 2494/1). Recordiwyd Miss Morgan gan yr Archif hefyd yn 1962 (gw. AV 504/1) ac yn 1974 (gw. AV 4242/1 a AV 4243/1).
Welsh language oral history recording with Rachel Morgan, Tre-lech a'r Betws.
Cawl ffwt a berw - disgrifio diwrnod ffwrno - dydd Mawrth, fel rheol. Crasu bara can (wedi'i brynu). Gwlychu tŵes mewn padell gwchen. Ffwrno = gwaith y forwyn. Berem gwlyb - ei gadw mewn potel yn y gors. Paratoi'r berem, a'i roi mewn pant bach yng nghanol y fflŵr. Gadael y toes i godi am ryw awr. Ei orchuddio'n dda. Rhidio tuniau â chig gwyn. Y ffwrn = cidl wedi'i rhoi ar i hochr mewn twll yn y wal. Un silff ynddi a chlawr wedi'i wneud arni. Tân o dani. Cwgen = tŵes a chyrensen neu ddwy ar ei wyneb = math o fyns. Plant yn haff ohonynt. Llunio'r dorth - peidio a thorri'r tŵes a chyllell - y gyllell yn torri'r gwythiennau. Pren bara - lluio'r dorth arno. Tuniau rownd. Marco top y sorth a fforc.Ail godi yn y tuniau. dwy dorth yn y ffwrn ar y tro - cnoco gwaelod y dorth i'w phrofi ar ôl iddi gael ei chrasu. Owlach i roi'r bara i mewn yn y ffwrn. Torth i oeri ar i chant ar y llawr. Rhannu'r dorth - crwstin, tafell, torri bara menyn, lluos. - torthe. Torth ar waelod y ffwrn - batshen? heb dun amdani. Gwneud tarten ar ddiwrnod ffwrno. Pwdin reis. Cofio am fara ffwrn fach - tân mate allan ar y clôs. bara planc - o laeth enwyn a bi-carb soda, dim berem ynddo. Trostol i ddal y badell bres wrth wneud caws. Rhoi drws arni adeg lladd mochyn. Bara shincin - i frecwast, swper. Bara tablen - i swper weithiau. bar wedi'i dosto mewn llaeth.