Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Letter
Llythyr oddi wrth Gareth Haulfryn Williams yn cynnwys manylion am draddodiadaunardal Clwt-y-bont fel y cafodd mewn sgwrs gyda W.S. Griffiths (Deiniolen).
Cyfeirir yn arbennig am y traddodiad ''tua adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, o goginio crempogau a'u hanfon trwy'r post i aelodau o'r teulu neu ffrindiau wedi symud o'r cyffiniau...anfonwyd y pecynnau i ffwrdd ar ddydd Mawrth Ynyd...''
Hefyd ''...am nos Galan yng Nghlwt-y-bont. Toc ar ôl hanner nos bob blwyddyn, byddai he wreigan yn cerdded ar hyd stryd y pentref, gyda choban wen dros ei phen, yn chwythu ''sgrepan'', yn gwneud digon o swn '' i'ch dychryn chi''... dull o ddymuno flwyddyn newydd dda i bawb yn y pentref oedd hyn. Honai'r ddynes o ardal Clynnog Fawr, a dywedai hithau mai arfer o'r gymdogaeth honno oedd yr ymddygiad rhyfedd.'') [1982]