Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Knocker churn
Buddai ar ffurf casgen derw a gwaelod fflat iddi sy'n culhau'n raddol tuag at coler wedi ei wneud o onnen. Defnyddid y 'cnociwr' neu'r 'ordd', sef y ffon goes-hir gyda darn o bren fflat gyda tyllau ar ei waelod, a'i weithio i fyny ac i lawr drwy dwll yng ngwaelod y fuddai.Buddai ar ffurf casgen a gwaelod fflat iddi sy'n culhau'n raddol tuag at y gwddf. Defnyddid y 'cnociwr' neu'r 'ordd', sef y ffon goes-hir gyda darn o bren fflat gyda tyllau ar ei waelod, a'i weithio i fyny ac i lawr drwy dwll yng ngwaelod y fuddai.
Roedd y math yma o fuddai yn gyffredin o'r 1600au tan yr 1800au hwyr.
Ceir amrywiadau ar yr enw o ardal i ardal:
buddai gnoc (ardal Aberteifi, Gwynedd a sir Dinbych) budde bwmp (ardaloedd Rhydlewis ac Aberteifi) budde dwmp (ardaloedd yr hen sir Frycheiniog, Dwyrain Morgannwg a Chaerfyrddin) budde ffusto a budde gnap (Dwyrain Morgannwg) budde gordd (Gorllewin Morgannwg)
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.