Scene from Senghenydd Disaster, 1913, painting - Casgliadau Arlein | Museum Wales
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

 

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

 

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

 
 
Gweld ein Polisi Cwcis
Lleoliadau +
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

Scene from Senghenydd Disaster, 1913, painting

Rhoddwyd y llun hwn sy'n gysylltiedig â'r trychineb i’r Adran Ddiwydiant gan löwr dywysydd a oedd yn gweithio yn Big Pit. Dyma ei stori - Mae'r darlun hwn wedi bod yn y teulu ers 1913 ac mae'r stori y tu ôl i’r llun wedi cael ei drosglwyddo i lawr i mi, er bod ymchwil diweddar gan Ystafell Goffa Senghennydd wedi codi amheuon ynghylch rhai o’r manylion. Dywedir mai fy mam-gu yw’r wraig sy’n llefain yn y llun. Ar adeg peintio’r llun ym 1913, Sarah Jane Price oedd hi. Mae hi'n llefain oherwydd bod ei gŵr cyntaf George A Price, glöwr 28 oed o 137 Stryd Fawr, Abertridwr, yn cael ei gario o leoliad y trychineb ar y stretsier. Rwy’n credu mai Rachel Price, ei merch o’i phriodas gyntaf yw’r ferch wrth y drws. Y bachgen yw ei mab, James Price (2 flwydd oed) a'r babi yw George Abraham Price (8 mis oed). Cafodd yr olygfa ei pheintio gan fy nhad-cu, Thomas Broome, sef ffrind gorau gŵr cyntaf fy mam-gu, sef y corff ar y stretsier yn ôl y sôn. Fodd bynnag, ni chafodd corff George A. Price ei ganfod a’i adnabod tan 31 Mawrth 1914. Felly, nid yw stori’r teulu ynglŷn â’r darlun yn gwbl gywir. Yn ogystal, ni fyddai wedi bod yn bosibl gweld y lofa o’r tŷ yn Abertridwr. Roedd fy nhad-cu yn rhan o'r ymdrechion i achub y gweithwyr, yn ogystal â bod yn artist amatur, a dyma’r olygfa y dewisodd ei pheintio’n ddiweddarach. Syrthiodd fy nhad-cu mewn cariad â'r wraig yn y llun a’i phriodi ym 1914. O’r briodas hon y ganed fy nhad Henry William Broome yn ddiweddarach. Yn ogystal, collodd fy Mam-gu, Sarah Jane Price, ei thad (fy hen dad-cu), John Phelps, The Huts, Senghennydd a oedd yn halier 26 oed (ei gorff ef oedd naill ai'r 15fed neu'r 16eg corff i’w ganfod) yn nhrychineb Senghennydd 1901, felly, fe gollodd hithau ei thad a'i gŵr o fewn 12 mlynedd yn yr un pwll glo. Yn ddiweddarach aeth fy nhad i weithio yn y pyllau glo, felly fi yw’r bedwaredd genhedlaeth o lowyr yn fy nheulu.''

Scene from Senghenydd Disaster, 1913, painting
Delwedd: Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
 Chwyddo

Pwnc

Diwydiant

Rhif yr Eitem

2012.79

Mesuriadau

Meithder (mm): 330
Lled (mm): 430

Categorïau

coal Mid Glamorgan 1910s

Dosbarth

disaster
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

Diwydiant

Senghenydd, film negative

2009.3/1675
Mwy am yr eitem hon
Diwydiant

Senghenydd, film negative

2009.3/1591
Mwy am yr eitem hon
Diwydiant

Senghenydd, film negative

2009.3/1585
Mwy am yr eitem hon
Diwydiant

Senghenydd, film negative

2009.3/1589
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Llyfrgell Luniau
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯