Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Lake near Moritzburg
Ganed Heckel yn Döbeln yn Sacsoni a chafodd ei hyfforddi fel pensaer yn Dresden. Ym 1905 sefydlodd Die Brücke (Y Bont), y grŵp Mynegiadol cyntaf, ar y cyd ag eraill. Y flwyddyn wedyn troes at beintio'n llwyr. Daw'r olygfa hon o dŷ ar lannau llyn o haf 1909 pan oedd Heckel yn peintio gyda'i gyfaill Ernst Ludwig Kirchner yn Ardal y Llynnoedd o gwmpas y llety hela brenhinol ym Moritzburg i'r gogledd o Dresden. Mae'r lliwiau llachar yn nodweddiadol o Fynegiadaeth yr Almaen.