Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Anghymesur 1
Mae Magdalene Odundo yn cael ei hysbrydoli gan rôl ddefodol ac ysbrydol serameg mewn rhai diwylliannau Affricanaidd, fel cymdeithas Ga’anda yn Nigeria lle gall llestri “fod yn ymgorfforiadau a allai ganiatáu ar gyfer ymyrraeth neu ryddhad ysbrydol.” Drwy ychwanegu lwmp bach fel bogail ar wyneb y llestr, mae’n ymddangos fel pe bai’n cyfeirio at gorff beichiog menyw, a all ynddo’i hunan fod yn llestr neu’n gynhwysydd, gan addo bywyd newydd a phŵer iachâd. Mae llestri Odundo hefyd yn dangos ei chariad tuag at ddawns, gan geisio cydbwysedd rhwng llonyddwch a symudiad. Yn ei geiriau hi, mae potiau fel hyn “ar flaenau eu traed ac wedi oedi am ennyd.”
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.