Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Letter
Gwŷs tyst a anfonwyd at Mr Owen William Humphreys, yn ymwneud â damwain angheuol Mr Eric Lyall yn Chwarel Dinorwig. Mae'r wŷs yn galw ar Mr Owen Williams Humphreys i fynychu Neuadd y Sir Caernarfon ar ran y diffynnydd (Dinorwic Slate Quarries Co Ltd). Y pleintydd yn yr achos oedd Mrs Betty Lyall, gweddw Mr Stan Lyall. Mae'r wŷs yn ddyddiedig 1968.
Ar yr 8fed o Fedi 1966 Mr Eric Lyall (Stiward yn Chwarel Dinorwig) oedd y person olaf i gael ei ladd mewn damwain yn Chwarel Dinorwig. Syrthiodd Mr Lyall 120 troedfedd wrth geisio rhyddhau bloc mawr o lechen o wyneb y graig, ac o ganlyniad torrodd ei benglog. Ar adeg ei farwolaeth roedd Mr Lyall yn 45 oed, ac yn dad i dri o blant (20, 17, a 10 oed). Fe beryglodd Mr Owen William Humphreys (oedd hefyd yn stiward yn Chwarel Dinorwig) ei fywyd ei hun trwy geisio achub Mr Lyall.
Yn dilyn y ddamwain, enwebwyd Mr O.W. Humphreys am wobr dewrder, a derbyniodd ‘Dysteb Er Anrhydedd ar Felwm’ gan y Gymdeithas Ddyngarol Frenhinol (Honorary Testimonial on Vellum by the Royal Humane Society).