Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Dosbarth cadw’n heini i bobl hŷn yn y pwll ben bore. Sun City, Arizona, UDA.
Mae'n debyg i wneud y conga, ond mewn pwll nofio! Yn y ffotograff hwn gwelwn ddosbarth ymarfer corff ben bore mewn pwll nofio yn Arizona (UDA). Mae grwpiau o bobl yn creu cadwyni dynol, gyda'u dwylo ar ysgwyddau'i gilydd, a'r dŵr yn troelli wrth iddyn nhw symud mewn cylchoedd.
Tynnwyd y ffotograff hwn gan David Hurn yn 2002. Fe deithiodd David Hurn i Arizona droeon, a'i disgrifio fel 'y dalaith fwyaf adain dde yn America, a'r sychaf. Y gwrthwyneb yn llwyr i Gymru fy mamwlad’.