Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad clyweledol / Audio-visual recording: Loretta Smith
“Fe wnes i ddysgu cael ffydd yn Nuw, dyna yw’r gwirionedd i mi.”
Ganed Loretta Smith ym mhlwyf Trelawney, Jamaica, yn 1937.
“Rwy’n cofio’r dyddiau ysgol... [os oeddech chi’n hwyr] ‘dwylo allan’, roedd yn rhaid ichi gyrraedd yr ysgol, roedd yn rhaid ichi godi’n gynnar...”
“Roeddwn i’n gweithio yn Kingston... mewn fferyllfa... roedd e [gŵr Loretta] yn byw yn y cyffiniau... dyna sut wnaethon ni gwrdd â’n gilydd a dechrau sgwrsio a’r cwbl a ddaeth wedyn (chwardda Loretta).”
“Felly, dyma fe’n dod draw [i Gymru] ac yn anfon amdanaf i... roedd e’n byw yn Raglan Street [Casnewydd]... felly nawr pan roedden ni’n dod o Jamaica... roedd gennyn ni rywle i ddod iddo, gan fod gan rywun o Jamaica dŷ. Cesglais fy arian a dod drosodd, draw i Loegr.”
“Fy swydd gyntaf... ffatri diodydd pop, Alma Street... fy swydd nesaf, Helium Peart... roeddwn i’n gweithio yn y gwaith topio, lle roedden nhw’n gwneud y sgriwiau...”
“Ers imi fod yn blentyn, nyrs oeddwn i am fod, dyna oedd fy nyhead, pan rwy’n tyfu lan, hoffwn fod yn nyrs... ar ôl y plant... pan roedden nhw’n ddigon hen imi fedru mynd... i nyrsio. Roeddwn i’n gweithio yn [Ysbyty Brenhinol] Caerdydd... fe gefais i bump o blant i gyd, rhwng, rhwng 1962 ac 1972.”
“Fuaswn i ddim yn byw fy mywyd yn wahanol o gwbl... ddweda’ i wrthych chi, bendith Duw ar y peth bach a ddechreuon ni... fe ddwedais i ein bod am agor cegin gawl fach.”
“Ein syniad ni, y bedair ohonom. [Cawl] llawn corn, a thwmplins o’r badell ac ati... gwneud reis a chyw iâr... mae gan bawb eu pethau eu hunain [i’w gwneud]... mae pawb wrth eu boddau.”
“Rwy’n credu dylech chi ymdrechu i ddilyn eich breuddwydion... mi fuaswn i’n annog unrhyw un i ddilyn eich breuddwyd.”