Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad clyweledol / Audio-visual recording: Laceta Reid
“Rwyf wedi cynefino yma a gwneud fy nghartref yma.”
Ganed Laceta Reid ym Manchester, Jamaica ym mis Mai 1931.
“Rwy’n cofio trychineb trên yn digwydd heb fod ymhell o lle’r oedden ni’n byw [yn Jamaica], Awst 1957, y ‘Kendal Crash’ oedden nhw’n ei alw. Taith o Kingston i Fae Montego oedd hi.”
“Fe aethon nhw â’r cyrff allan a’u rhoi dan goeden gotwm, yn yr awyr agored i bobl ddod yno... roedd yn anodd, roedd yn ofnadwy. Welais i erioed mo’r fath beth o’r blaen.”
“Fe wnes i adael a dod i Brydain yn fuan wedyn... roedd y siwrne’n un hir, 23 o ddiwrnodau... enw’r llong oedd yr SS Montserrat – doedd hi ddim yn fordaith braf; fues i’n sâl ar y llong...”
“Roedd hi’n heulog pan gyrhaeddon ni Brydain. Roeddwn i’n synnu. Mis Medi oedd hi. Y ffordd roedden ni wedi clywed gan yr hynafiaid wrth inni dyfu i fyny, fuasech chi ddim yn meddwl bod yr haul yn tywynnu ym Mhrydain.”
“Ganed ein dau blentyn, bachgen a merch, ac roeddwn i’n ceisio cael gwaith, ond doedd neb yn fodlon rhentu lle gyda phlant. Mae’n beth rhyfedd bod yn Jamaicaidd...”
“Fe adawais i’r ffatri ganhwyllau a chael swydd mewn gwaith paraffin, roedden ni’n gwneud gwresogyddion paraffin. Aeth y cyflog i fyny i £18... roedd cryn dipyn o bobl Dduon yn gweithio yno... roedd yno Arabiaid, Pacistaniaid, llwyth o bobl, cenhedloedd o bob math.”
“Bachgen cefn gwlad wyf i, ac roedd yn gweddu’n iawn i mi. Roedd hi’n ddistaw, dim rhyw brysurdeb fel Llundain, felly mi benderfynais i setlo ar ôl sbel. Yn 1962, ddois i yma.”
“Ceisiwch fod yn neis gyda phawb ac fe ddowch o hyd i’ch ffordd o gwmpas. Ceisiwch ddysgu crefft – dyna’r rhan gorau o’ch bywyd ar y gorwel.”