Blaen-orsaf Trin Clwyfau yn Ffrainc - Casgliadau Arlein | Museum Wales
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

 

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

 

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

 
 
Gweld ein Polisi Cwcis
Lleoliadau +
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

Blaen-orsaf Trin Clwyfau yn Ffrainc

Mae meddyg yn plygu dros ei glaf ar wely gwellt mewn pabell dywyll, a nyrs yn ei gynorthwyo. Byddai cludwyr wedi'i gario yno o'r ffosydd ar stretsier er mwyn cael triniaeth a'i baratoi i'w gludo i Ysbyty Glirio. Mae rhaffau'r babell, sy'n creu llinellau lletraws yn dangos manwl gywirdeb Shepperson fel artist graffeg.

Mae'r printiau hyn yn dilyn taith milwr clwyfedig o'r Ffrynt, trwy'i driniaeth a'i adferiad nôl adref. Yn wreiddiol, roedd y trefnwyr wedi gofyn i'r artist a'r cyn-lawfeddyg Henry Tonks (1867-1937), ymateb i waith y gwasanaethau meddygol. Fodd bynnag, teimlai Tonks nad oedd y papur a ddarparwyd yn addas ar gyfer darlunio, a gwrthododd y cynnig. Comisiynwyd Shepperson i fynd i'r afael â'r pwnc wedyn, ac aeth ati i gynhyrchu cyfres a gafodd dderbyniad gwresog iawn.

Ganwyd Shepperson yn Beckenham, Caint, ac roedd yn artist amlgyfrwng llwyddiannus yn gweithio mewn dyfrlliw a phen ac inc, darluniau a lithograffau. Wedi rhoi'r gorau i astudio'r gyfraith, dilynodd gyrsiau celf yn Llundain a Pharis. Mae'n enwog am y darluniau doniol a gyfrannodd i gylchgrawn 'Punch' rhwng 1905 a 1920.

Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals', gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 i ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.

Blaen-orsaf Trin Clwyfau yn Ffrainc
Delwedd: Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
 Chwyddo

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 13200

Mesuriadau

h(cm) sheet size:38
h(cm)
w(cm) sheet size:58
w(cm)

Categorïau

Gweithiau ar bapur Celf Gain
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

Celf

The Prawn

NMW A 27439
Mwy am yr eitem hon
Celf

The Estuary

NMW A 19660
Mwy am yr eitem hon
Celf

The Annunciation

NMW A 26256
Mwy am yr eitem hon
Celf

The Bathos

NMW A 22532
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Llyfrgell Luniau
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯