Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Answer book
Llyfr Ateb Amgueddfa Werin Cymru pellach oddi wrth John Parry, Llanrug, 1964, (gweler MS 1071 a MS 1143) yn cynnwys lluniau a nodiadau ar gymdeithas y Fachwen, Llandeiniolen, sir Gaernarfon, rhwng y blynyddoedd 1900-16 gan roi sylw arbennig i chwaraeon plant. Anfonwyd Llyfrau Ateb gan Amgueddfa Werin Cymru at unigolion ar draws Cymru er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am agweddau o ddiwylliant gwerin yn eu hardaloedd yn cynnwys amaeth, crefftau, bwyd, arferion a thafodiaith. Mae’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw yn y llyfrau. Roedd y Llyfrau Ateb yn ddilyniant i’r holiaduron a anfonwyd ym 1937.