Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Athlete struggling with a python
Dangosir athletwr noeth a pheithon wedi’u cloi mewn gornest dreisgar yn y cerflun bach hwn gan Frederic Leighton. Mae’n fersiwn llai o’r un maint byw a arddangoswyd yn wreiddiol yn yr Academi Frenhinol ym 1877. Roedd Leighton yn Academwr sefydledig erbyn y cyfnod hwn, ac yn ffigwr uchel ei barch ym myd celf Prydain. Serch hynny, paentiwr oedd Leighton yn bennaf, ac Athletwr yn Brwydro â Pheithon oedd ei gynnig cyntaf ar gerflun.
Roedd y gwaith terfynol yn hynod ddylanwadol. Roedd yn waith a oedd yn sylfaen i fudiad o’r enw Cerflunwaith Newydd, a oedd yn drobwynt yn hanes cerflunwaith ym Mhrydain. Drwy arbrofi gyda gwahanol ddulliau a thechnegau, aeth artistiaid y mudiad â cherflunwaith i gyfeiriad newydd sbon. Yn lle defnyddio marmor, y deunydd a ffafriai’r cerflunwyr Neoglasurol, dechreuon nhw adfywio diddordeb mewn technegau castio efydd.
Roedd y defnydd o efydd yn caniatáu iddyn nhw roi mwy o sylw i wead yr arwyneb a manylion naturiolaidd; ac i roi mwy o egni a dynameg yn eu cerflunwaith. Byddai osgo bywiog a throellog Athletwr Leighton wedi bod yn anodd ei gyflawni â marmor. Er i Leighton gytuno yn nes ymlaen y gellid dyblygu ei waith â marmor, roedd yn rhaid cynnwys cefnogaeth ychwanegol i ddal pwysau’r goes.
Fel pwnc, mae gan y frwydr rhwng dyn a pheithon wreiddiau mewn hynafiaeth Glasurol. Byddai Leighton wedi bod yn ymwybodol o gerflun enwog Laocoön yn Rhufain, sy’n dangos tri dyn yn cael eu gwasgu gan nadroedd, wrth greu’r gwaith hwn. Ond roedd y driniaeth hon o’r pwnc yn arloesol ac yn gyffrous. Cafodd y gwaith statws eiconig ym Mhrydain yn Oes Fictoria, ac roedd mor adnabyddus fel y byddai’n cael ei ddefnyddio’n aml mewn cartwnau, hysbysebion, ac fel cyfeiriadaeth mewn gweithiau celf eraill.
I rai, mae’r gwaith yn gysylltiedig â mynegiant hunaniaeth queer. Byddai darluniau o ddynion athletaidd noeth yn aml yn cael eu cysylltu â syniadau o gryfder moesegol, disgyblaeth a gwrywdod traddodiadol neu ‘syth’ yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond edmygid y gwaith hwn yn eang mewn cylchoedd bach neu is-ddiwylliannau lle byddai tueddiadau cyfunrywiol i’w cael. Byddai ffotograffau o’r gwaith yn cael eu cyfnewid yn gyfrinachol, ac mae rhai wedi honni y gallai bod yn berchen ar gopi o’r gwaith gael ei ddeall fel cod ar gyfer hunaniaeth queer neu amgen. Does dim prawf i Leighton gael perthnasau o’r un rhyw, ond mae ei rywioldeb wedi bod yn destun dyfalu.
New sculpture is a name applied to the sculptures produced by a group of artists working in the second half of the nineteenth century The term was coined by critic Edmund Gosse in an 1876 article in Art Journal titled The New Sculpture in which he identified this new trend in sculpture. Its distinguishing qualities were a new dynamism and energy as well as physical realism, mythological or exotic subject matter and use of symbolism, as opposed to prevailing style of frozen neoclassicism. It can be considered part of symbolism. The keynote work was seen by Gosse as Lord Fredrick Leighton’s Athlete Wrestling with a Python, but the key artist was Sir Alfred Gilbert followed by Sir George Frampton. An Important precursor was Michelangelesque work of Alfred Stevens.