Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Forwyn a'r Plentyn gyda Phomgranad
Mae’r paentiad hwn o’r Forwyn a’r Plentyn, cymynrodd Gwendoline Davies i Amgueddfa Cymru ym 1952, wedi bod yn ddirgelwch erioed. Oedd y gwaith gan Botticelli ei hun, un o’i ddilynwyr neu artistiaid yn ei weithdy? Does neb yn berffaith siŵr, ond mae tystiolaeth newydd yn awgrymu bod y gwaith yn dod o stiwdio Botticelli, a taw’r meistr ei hun sy’n gyfrifol am rannau ohono. Botticelli oedd un o brif beintwyr Fflorens ar ddiwedd y bymthegfed ganrif a châi ei noddi gan y teulu Medici a'r Pab. Mae'r llun hwn wedi ei seilio ar y ffigyrau canolog yn y darn allor San Barnaba a beintiodd tua 1485 ac sydd yn Oriel Uffizi yn Fflorens. Mae'r pomgranad yn llaw'r plentyn Iesu yn arwydd Cristnogol o'r Atgyfodiad. Gwelwyd y gwaith mewn pennod o Britain’s Lost Masterpieces y BBC ar 13 Tachwedd 2019.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.