Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Account book
Mae’r llyfr cyfrifon yma’n dangos gwerthiant gwlân Melin y Cambrian, Dre-fach Felindre, rhwng 1888 a 1903. Mae’n rhestru enwau’r cwsmeriaid, gan gynnwys siopau cydweithredol, ‘co-ops’ a dilledyddion trefi diwydiannol y De, a nodyn am eu harchebion.
Roedd y felin yn gwerthu dillad – peisiau, crysau a ffedogau – yn ogystal â llathenni o frethyn streipiog, siec a phlaen i gwsmeriaid y Canolbarth a’r De. Roedd y rhan fwyaf o’r archebion yn mynd i siopau dilledyddion yn ardaloedd diwydiannol y De, lle'r oedd galw mawr am ddillad gwlanen i weithwyr. Cafodd rhai eu hanfon cyn belled â gogledd Lloegr a’r Alban.
Caeodd Melin y Cambrian, Dre-fach Felindre ym 1965. Erbyn heddiw, mae’n gartref i Amgueddfa Wlân Cymru.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.