Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Sidde Sazuze
Tipyn o ddirgelwch yw’r portread hwn, ac nid yw erioed wedi cael ei arddangos yn barhaol. Credir iddo gael ei baentio yn y 18fed ganrif, ond mae’r artist yn anhysbys. Mae’n dangos gŵr mewn gwisg urddasol yn dal cleddyf dros ei ysgwydd. Uwchlaw’r ffigwr mae’r geiriau ‘Siddi Sazuze’, a dyma’r unig friwsionyn o wybodaeth sydd amdano. Indiaid o dras Affricanaidd yw’r Siddi, ac mae’n bosib eu bod wedi cyrraedd India mor gynnar â’r 7fed ganrif. Roedd rhai yn gaethweision, ond eraill yn ddynion rhydd ac yn fasnachwyr neu bysgotwyr. Enillodd rhai statws a grym, ac mae’r dillad yn y portread hwn yn awgrymu bod y gŵr hwn yn fonheddwr. Mae sawl cymuned Siddi yn India a Pakistan heddiw. Er bod rhai yn byw bywydau tlawd ac anghysbell mae rhai wedi gwreiddio’n fwy llwyddiannus, ond er gwaethaf rôl bwysig pobl Siddi yn hanes India, heddiw mae nhw’n wynebu stigma ac yn cael eu gwthio i gyrion cymdeithas. Gobeithiwn ddysgu mwy am y portread hwn drwy gyfrwng ymchwil pellach a thrafod gydag arbenigwyr a’r gymuned, ac rydym yn croesawu unrhyw sylwadau neu wybodaeth.