Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Gilbern motor car - TYY 467L
Roedd y car hwn yn rhan o'r gyfres Invader a lansiwyd ar ôl rhoi'r gorau i gynhyrchu'r Genie, ail fodel y cwmni, ym 1969/1970. Cafodd ei farchnata fel car cyflym arbenigol drud a gewddol foethus.
Er bod nifer o wahanol ddarnau o geir wedi'u cynhyrchu — ac yn cael eu cynhyrchu — yng Nghymru, dim ond un car, serch hynny, a wnaed yn gyfan gwbl yma. Y Gilbern oedd hwnnw. Fe'i cynhyrchwyd gyntaf yn 1960 mewn ffatri yn Llanilltud Faerdref, ond daeth ei ddyddiau i ben yn 1974. Cafwyd nifer fach o wahanol fodelau ac roeddynt yn arbennig am fod eu fframwaith o ffibr gwydr. Yr Invader oedd y model olaf a chafwyd tair fersiwn ohono — Marc I, II a III. Enghreifftiau o'r ddau olaf sydd yng nghasgliad yr Amgueddfa. Injan Ford V-6 3 litr sydd ynddynt a gallai'r Marc III fynd ar gyflymder o 120 milltir yr awr. (Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984).