Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Answer book
Llyfr Ateb Amgueddfa Werin Cymru, 1969, oddi wrth Lewis T. Evans, Rhuthun, (Cyffylliog, 1882-1975) yn cynnwys nodiadau ar goelion tywydd, meddyginiaethau, dywediadau amaethyddol, diarhebion ac egwyddorion saerniaeth trol yn y cyfnod 1880-1920.
Anfonwyd Llyfrau Ateb gan Amgueddfa Werin Cymru at unigolion ar draws Cymru er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am agweddau o ddiwylliant gwerin yn eu hardaloedd yn cynnwys amaeth, crefftau, bwyd, arferion a thafodiaith. Mae’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw yn y llyfrau. Roedd y Llyfrau Ateb yn ddilyniant i’r holiaduron a anfonwyd ym 1937.