Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Powell Duffryn locomotive no. '10'
Fe'i prynwyd yn newydd gan Powell Duffryn yn 1900 oddi wrth y gwneuthurwyr, Hudswell Clarke, i'w defnyddio yng ngweithfeydd glo'r cwmni yn Ne Cymru. Gyda chenedlaetholi yn 1948 daeth yn eiddo i'r Bwrdd Glo Cenedlaethol a daeth ei dyddiau gwaith i ben yng Ngwaith Golosg Coed Elai, Llantrisant yn 1974. Fe'i cyflwynwyd i'r Amgueddfa gan y Bwrdd Glo.
Gwnaed y gwaith o'i hadfer i'w lifrai Powell Duffryn gwreiddiol gan bobl ifainc a gyflogwyd ar Gynllun Profiad Gwaith. Yn of erthygl a ysgrifennwyd amdani yn y Locomotive Magazine yn 1903 `Mae'r gwaith a'r caen ar yr injan hon o'r radd flaenaf ac yn adlewyrchiad clodwiw ar yr adeiladwyr sy'n arbenigo mewn trenau at ddefnydd diwydiannol'. Bellach mae'n bedwar ugain oed ac wedi oes o lafur caled yn tynnu wagenni mewn gwaith glo mae ei chyflwr presennol yn dangos pa mor wir oedd y sylw uchod.
Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.