Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Pig sty
Roedd tylciau crwn fel hyn yn gyffredin yn ne Cymru slawer dydd. Credir bod y rhan fwyaf ohonynt wedi'u codi tua diwedd y 18fed ganrif ac yn ystod degawdau cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Waliau cerrig sych sydd i'r twlc a tho corbelog - sy'n golygu bod pob cylch o gerrig yn mynd yn llai nes ei fod ar ffurf cromen.
Cofnodwyd tuag wyth deg o enghreifftiau yng Nghymru hyd yma - bron bob un ohonynt yn y de. Roedd adeiladau cerrig corbelog tebyg, ond llai, yn cael eu defnyddio yng Nghymru i gadw hwyaid a gwyddau. Symudwyd y twlc hwn i'r Amgueddfa ym 1976.