Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Super Furry Animals, gefn llwyfan yn y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd (20 Tachwedd 2009)
Band roc indie a ffurfiwyd yng Nghaerdydd ym 1993 yw’r Super Furry Animals, sy’n cynnwys (o’r chwith i’r dde) Guto Pryce, Dafydd Ieuan, Huw ‘Bunf’ Bunford, Cian Ciaran a Gruff Rhys. Llwyddodd eu cerddoriaeth arbrofol, a berfformiwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg, i’w gosod ar flaen y gad yn y mudiad Cŵl Cymru a ddaeth i’r amlwg yn ystod y nawdegau. Yn 2009, cynhalion nhw ddigwyddiad yn eu tref enedigol yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd - adeilad a oedd unwaith yn ganolbwynt i’r fasnach lo fyd-eang. Dywedir mai yn yr adeilad hwn y cytunwyd ar y cytundeb miliwn o bunnoedd cyntaf erioed ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Llwyddodd y ffotograffydd Sophie Keyworth i ddal y band yn ymlacio gefn llwyfan yn y lleoliad eiconig.
Pwnc
Celf
Rhif yr Eitem
NMW A 29484
Derbyniad
Commission, 22/2/2010
Mesuriadau
Techneg
colour photographic print
photograph
Fine Art - works on paper
Lleoliad
In store
Categorïau
Ffotograff | Photograph Gweithiau ar bapur | Works on paper Celf Gain | Fine Art 04_CADP_Jul_21 Cerddor | Musician Rhywun enwog | Celebrity Gitâr | Guitar CADP random Grŵp ffurf | Figure group Portread wedi'i Enwi | Named portrait CADP content Artist Benywaidd | Woman Artist Artistiaid y 21ain ganrif | Active in the 21st CenturyNid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.