Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Copper ingot
Ingot copr a fwyndoddwyd yng Ngweithfeydd Copr Llansawel ger Abertawe, gwaith oedd yn eiddo i'r Cape Copper Company o Lundain. Mwyndoddi yw'r broses o boethi a thoddi mwyn er mwyn rhyddhau'r metel ynddo.
Cafodd yr ingot ei ganfod yn llongddrylliad yr SS St.George. Cafodd y llong ei dryllio ger Penrhyn Santes Agnes, Cernyw, ar 28 Tachwedd 1882 ar y ffordd o Abertawe i Nantes gyda 500 tunnell o lo a 100 tunnell o ingotau copr.
Daeth peth o'r mwyn ar gyfer yr ingot hwn o fwyngloddiau'r Cape Copper Company yn rhanbarth Nama-kwa/Namaqualand y Cape Colony, yn Ne Affrica heddiw. Nama-kwa/Namaqualand yw cartref pobl Nama, neu Khoekhoe, fyddai wedi defnyddio copr cyn i Ewropeaid drefedigaeth eu tiroedd. Cafodd Cape Colony ei threfedigaethu gan yr Iseldiroedd yn 1652, a Phrydain rhwng 1795-1803 ac 1806-1910.
Y Cape Copper Company oedd perchnogion mwynfeydd Nababeep, Springbok, O’okiep a Spectakel.
Llafurwyr o Affrica, pobl leol a mewnfudwyr, oedd mwyafrif y gweithwyr yn y mwynfeydd hyn. Bydden nhw fel arfer yn gweithio ar yr wyneb, yn torri a didoli cerrig. Byddai dynion a menywod yn gweithio ochr yn ochr, yn aml gan gario'u plant wrth weithio.
Danddaear, gweithwyr o Brydain fyddai'n cloddio'r mwyn fel arfer, ochr yn ochr ag ychydig o weithwyr o Affrica. Byddai'r Cape Copper Company yn cyflogi mwyngloddwyr profiadol, gwyn o Brydain ac yn eu talu nhw'n well na'u cydweithwyr o Affrica.
Ystyr 'CCC' yw Cape Copper Company a 'BS' yw 'best selected', sy'n golygu bod yr ingot o'r safon uchaf.
[Disgrifiad wedi'u datblygu ar y cyd ag aelodau Chai & Chat (CGG Abertawe), Gorffennaf 2024]