Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Holiadur | questionnaire
Atebion i holiadur Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1937, ar ddiwylliant gwerin Cymru gan Ysgol Y Sir, Llangollen. Mae'r wybodaeth yn cynnwys brasluniau mewn pensil o wrthrychau yn ymwneud a'r pwnc. Hefyd mae'r llyfryn yn cynnwys mewnbwn gan Islwyn Ffowc Elis (17 Tachwedd 1924 - 22 Ionawr 2004) ar dudalennau 1-21, a oedd yn ddiweddarach yn awdur ac yn nofelydd Cymraeg.
Holwyddoreg ar Ddiwylliant Gwerin Cymru, 1937 Paratowyd gan Adran Diwylliant Gwerin Amgueddfa Genedlaethol Cymru a chyhoeddwyd yn Rhagfyr 1937. Anfonwyd yr holiadur i blwyfi, ysgolion a unigolion fel modd o gasglu gwybodaeth am bob agwedd o ddiwylliant gwerin Cymru. Rhannwyd yr holiadur o dan y pynciau canlynol: cartref ac aelwyd, bywyd corfforedig, bywyd diwylliannol, crefftau a diwydiannau. Roedd yr amgueddfa yn awyddus i ymgysylltu gyda phobl Cymru a chydweithio gydag atebwyr yr holiadur wrth fynd ati i gasglu hanesion a gwrthrychau fel sail i sefydlu Amgueddfa Werin Cymru yn 1948.