Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Hwiangerdd
Yn yr ysgythriad hwn, mae gwraig hŷn yn dal plentyn ar ei glin. Mae ei llaw yn gorchuddio llygaid y plentyn i'w hamddiffyn rhag y ffigwr gwrthun, benyw-wrywaidd bron, sy'n dod tuag ati i anffurfio ei horganau cenhedlu. Yn sefyll y tu ôl iddyn nhw yn y cysgodion mae merch hŷn yn codi ei sgert. Ai hi sydd nesaf? Mewn bocs y tu ôl i'r gadair mae dol plentyn a’i breichiau wedi'u codi mewn arswyd. Er gwaethaf y teitl ‘Lullaby’ does dim byd cysurus o gwbl am y ddelwedd hon.
Cynhyrchodd Paula Rego y gyfres Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod mewn ymateb protest yn erbyn yr arfer barbaraidd ac annynol o Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod sy'n dal i gael ei gynnal ar ferched rhwng oed babandod a 15 oed mewn 30 o wledydd ledled y byd.