Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Cilgant Gwyrdd Asid
Mae cydgyfeiriant siapiau geometrig onglog miniog mewn lliwiau trwm yn creu cyfansoddiad deinamig yn y gwaith hwn. Mae siapiau oddi uchod yn cydgyfeirio â phrif “ffigwr” y triongl coch sy'n cael ei dyllu oddi isod ar yr un pryd. Mae wedi’i enwi ar ôl y ffurfiant tebyg i leuad, Cilgant Gwyrdd Asid. Mae’r gwaith celf, a gafodd ei baentio ym 1927, yn nodi'r cyfnod pan oedd Wassily Kandinsky yn addysgu yn ysgol Bauhaus, ac mae ei hymroddiad i geometreg ffurfiol a’r haniaethol yn amlwg yn y gwaith hwn. Cafodd y darn ei gymryd gan y Natsïaid am fod yn gelfyddyd ddirywiedig a’i osod yn Entartete Kunst, sef eu harddangosfa enwog ym 1937 a oedd yn arddangos celf a oedd yn cael ei hystyried yn rhy fodern, Iddewig neu’n ‘ddi-Almaenig’. Heddiw, mae'n ein hatgoffa i fod yn wyliadwrus o fyd o sensoriaeth.