Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Amgueddfa mewn tref fach, Louisiana, UDA
Wedi ei ysgrifennu ar gefn y gwaith hwn: "Tynnwyd y llun yma yn ystod fy ymweliad cyntaf â'r Unol Daleithiau ar gyfer fy mhroject I Am About to Call It a Day. Roeddwn i newydd orffen gweithio ar Ou Menya yn Rwsia, project a wnaed trwy ofyn i bobl y gwnes i gwrdd â nhw ar y stryd os cawn i dreulio noson yn eu cartref. Darganfyddais mai dyma oedd fy ffordd o fynd i mewn at galon eu teulu. Gyda hynny, o'r diwedd roeddwn i'n teimlo'n gyffyrddus yn tynnu lluniau o ddieithriaid. Ond roeddwn i eisiau defnyddio'r un dull mewn gwlad lle roeddwn i'n gallu siarad yr iaith; roeddwn i eisiau gweld a fyddai'n dal i weithio bryd hynny. Felly, wrth saethu yn yr Unol Daleithiau, cefais fy nal mewn tref fach yn Louisiana. Doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i le i aros, ond roedd hen ddyn am ddangos 'yr unig amgueddfa hardd yn y dref' i mi. Roedd creiriau’r amgueddfa dan haen o lwch ac roedd yr awyrgylch truenus, unig yn rhyfeddol. Nid yw hon yn ddelwedd roeddwn i eisiau ei defnyddio yn fy llyfr oherwydd ei bod yn hollol wahanol i unrhyw un o fy ffotograffau eraill. A bod yn onest, dw i’n dal yn ansicr a ydw i'n hoffi'r llun yma! Ond rywsut, am ryw reswm, mae'r ffotograff yn dal i ddod i fy meddwl. Felly, efallai ei bod yn well nad yw'n mynd ar goll mewn archif ddigidol heb ei diffinio. Efallai ei bod yn well nad yw'n cael ei anghofio gyda threigl amser." — Bieke Depoorter