Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad clyweledol / Audio-visual recording: Dorothy Johnson
“Os rwyt ti’n trio ac yn methu, mae hynny’n iawn. Ond os nad wyt ti’n trio, fe wnei di feddwl ‘beth petai?’ am byth.”
Ganed Dorothy Johnson yn unig blentyn ym Mhlwyf St Thomas, Jamaica yn 1953. Roedd hi’n bedair mlwydd oed pan ddaeth i fyw i’r Deyrnas Unedig. Ei mam oedd y cyntaf i ddod yma, yna ei thad-cu ac yna daeth Dorothy ei hun gyda’i mam-gu.
“Roeddwn i’n gwisgo dillad haf, ffrog fach wen, sanau byrion, esgidiau bach gwyn... roedd y plethi o gwmpas yr arddyrnau’n ddel, ac ar goler y siaced... efallai mai aelod o griw’r caban wnaeth... fy lapio yn y siaced ’ma a fy nghario i mewn i adeilad... rwy’n cofio meddwl wrth ddod i lawr, mor brydferth oedd y lle, roedd hi’n adeg Nadolig pan ddois i yma, ar y 27ain o Ragfyr.”
“Aethon ni ddim yn syth i Gasnewydd, fe wnaethon ni hedfan i Birmingham. Fe ddaethon ni i Gymru yn 1959...”
“Ffordd arafach o fyw, ond roedd ’na broblemau hyd yn oed yr adeg hynny, wrth ddod i Gymru. Roeddwn i’n tua chwech oed – yn Pill roedd ’na fwy o wynebau Duon... roedd rhyw gysur mewn gweld pobl eraill fel fi!... Hyd yn oed fel plentyn, gallwn deimlo fod y naws yma’n wahanol i’r ffordd o fyw yn y ddinas...”
“Fe ddechreuais i fy ngyrfa fel cemegydd diwydiannol, roeddwn i’n arfer gweithio i British Steel yn y labordai, yn dadansoddi dur. Wedi imi orffen Yn yr ysgol, fe wnes i gais i BS ar Corporation Road... fe ges i’r swydd...”
“Pan mae pobl yn holi, rwy’n cyfrif fy hunan yn fenyw Ddu, Brydeinig, Jamaicaidd, Gymreig! I mi, nid yw’n golygu perthyn i unrhyw le unigol, dyma ble dwi’n byw... rwy’n byw yma ers fy mhlentyndod, rwyf wedi bod yn y Gwasanaeth Sifil, wedi bod mewn llawer o sefydliadau ac ati. Paid fyth ag anghofio o ble rwyt ti’n dod a ble mae dy wreiddiau di.”