Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Late Bronze Age gold hair ring
Dyma fodrwy fylchgron fechan wedi’i gwneud o ffoil aur a lapiwyd o gwmpas craidd o fetel nad yw’n werthfawr, copr digymysg mae’n fwy na thebyg. Modrwy gron ydyw ac mae iddi drychiad crwn a therfynellau pen fflat, diaddurn, nad ydynt yn cyfarfod. Yn draddodiadol, galwyd modrwyau bylchgrwn bychan wedi’u gwneud o aur neu eu haddurno â ffoil aur yn ‘fodrwyau gwallt’ neu ‘gylchau mwnai’/’arian modrwy’, ond ni wyddom yn union beth oedd eu diben. Yn Iwerddon y canfuwyd hwy amlaf ond mae mwy a mwy yn cael eu darganfod yng Nghymru a de Lloegr, ynghyd â'r Alban, Ffrainc a'r Iseldiroedd. Gwyddom am bedair enghraifft arall yng Nghymru, o Fferm Graianog, Gwynedd; Sain Dunwyd, Bro Morgannwg; a Phorth Eynon, Abertawe, yn ogystal ag un o gelc Cwm Cadnant, Ynys Môn.
Project Title: Gold in Britain’s auriferous regions, 2450-800 BC: towards a coherent Research Framework and Strategy. Status: Arts & Humanities Research Council (AHRC) Network Grant funded project (2018-2019)
LI1.4
Pwnc
Rhif yr Eitem
Gwybodaeth am y darganfyddiad
Enw'r Safle: Brynmill, Swansea Bay
Nodiadau: Single find. This ring was found while metal-detecting on the foreshore near Brynmill in Swansea Bay. The ring was about 15cm deep within the clay.