Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Sgwd yr Henryd, Cwm Nedd
Mae rhai brasluniau olew yn darlunio safleoedd ac adeiladau enwog, tra bod rhai eraill yn canolbwyntio ar gorneli di-nod o fyd natur. Mae'r tirlun cynnar hwn yn darlunio Rhaeadr Henryd ger Coelbren lle mae Afon Llech yn disgyn 90 troedfedd dros graig ar ei ffordd i Afon Tawe. Mae'n un o grŵp o ddarluniau o Dafarn y Lamb and Flag Glyn-nedd. Roedd y dafarn yn ganolfan gyfleus i archwilio'r Cwm, a chafodd ei disgrifio gan William Weston Young ym 1835 fel 'tafarn gyffyrddus i ddadflino... mae mewn lle hardd a'r golygfeydd yn wych'. Un o Ferthyr oedd yr artist Penry Williams yn wreiddiol, ond ymgartrefodd yn Rhufain yn y pen draw. Yma mae trawiadau ei frws yn rhydd ac yn reddfol ac mae rhannau o'r llun wedi"u gadael yn anorffenedig. Mae hyn yn awgrymu ei fod wedi gweithio'n gyflym i ddal effaith dŵr yn ewynnu dros y rhaeadrau.