Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad clyweledol / Audio-visual recording: Jaqueline Henry
“Roedd gan fy mam farc geni ac mi fyddwn i’n arfer dweud, fe wna i gofio fy mam, am fod ganddi farc geni...” Ganed Jacqueline Henry yn St Catherine, Jamaica yn 1957.
“Cefais blentyndod gwych yn Jamaica, roeddwn i’n mwynhau’r ysgol ac wrth fy modd yn treulio amser gyda fy nhad-cu, fy mam-gu a f’ewythr.”
“Roeddwn i wir eisiau bod yn ddaearegydd, ac astudio ffosilau. Hyd yn oed pan oeddwn i wedi dod yma, roeddwn i wrth fy modd gyda ffosilau a chreigiau.”
“Fe ddois i’r Deyrnas Unedig ar y 5ed o Ragfyr 1969, i ymuno â fy mam, roeddwn i’n 11 oed... i Gatwick ddois i... felly roedd hi’n andros o oer.”
“[Roedd yn] sioc i’r system... fe ddois i Gaerdydd ar fy union... roedd fy mam yn byw yn Nhrelái.”
“Pan ddois i roedd yn agoriad llygaid. Roeddwn i’n 11, bron yn 12, yn optimistaidd iawn ac o ran addysg...”
“Doeddwn i erioed wedi profi hiliaeth nes cyrhaeddais i’r wlad hon, yn enwedig yn blentyn...”
“Roeddwn i’n un o’r goreuon yn y dosbarth [yn Jamaica]...”
“Fe gefais fy ngwthio i lawr i waelod y dosbarth, roeddwn i’n blentyn disglair... am y 3–4 blynedd gyntaf o fy mywyd yma, fe wnaethon nhw chwalu fy hyder.”
“Y cymdogion... roedd y pethau wnaethon nhw yn anhygoel. Fe godais i un bore ac roedd yna fwced o... alla i mo’i ddisgrifio hyd yn oed... carthion allan yn y cefn tu fas y ffenest... [roedd rhaid i] mam olchi’r cefn...”
“Chefais i ddim llawer o broblem yn y gwaith a dweud y gwir... doeddwn i ddim wedi meddwl y buaswn i yma am gyfnod mor hir.”
“Rwy’n credu y dylai pobl gael gwybodaeth dreiddgar o’u hanes. Astudiwch hanes yn iawn, dyna fuaswn i’n ei ddweud.”