Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Stryd Bentref
Mab i'r beintwraig Suzanne Valadon oedd Utrillo, a'i cyflwynodd i beintio ym 1901 fel therapi ar ôl ei bwl cyntaf o alcoholiaeth, salwch a fu arno drwy gydol ei yrfa. Galwyd ef 'y mwyaf bohemaidd o'r bohemiaid', ac arbenigai mewn golygfeydd o strydoedd Paris. Mae'r olygfa hon o tua 1917 yn dangos maestref Sannois yng ngogledd-orllewin Paris, ardal y byddai'r arlunydd yn ei pheintio'n gyson ar ôl treulio amser mewn sanitoriwm yno ym 1912-13. Prynwyd y gwaith hwn gan Margaret Davies ym 1960.