Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Bywyd Llonydd â Thebot
Byddai Cézanne yn peintio darluniau bywyd llonydd gydol ei yrfa, ond daw'r goreuon o'i flynyddoedd olaf. Mae'r cyfansoddiad hwn o 1902-06 yn un o nifer gyda ffrwythau, llysiau, llestri a darnau o ddefnydd wedi eu trefnu ar fwrdd sydd i'w weld o hyd yn ei stiwdio yn Aix. Mae'r gwrthrychau'n berthnasol i blygiadau carped y bwrdd fel patrymau yn y dirwedd. Mae persbectif wedi ei ail-lunio a manylion, megis bwlyn caead y tebot, wedi eu gwthio'n ôl i bwysleisio undod ffurf dros y pwnc. Fel y dywedodd David Sylvester ym 1962: 'Wrth i ni edrych ar y pedair ffurf gron yn cael eu cwmpasu gan blât yn 'Bywyd llonydd gyda Thebot', wyddwn ni ddim mewn gwirionedd ai afalau, orenau neu fricyll ydyn nhw na pha rai ydyn nhw, a dydyn ni ddim yn malio. Yr hyn wyddom ni wrth edrych arnyn nhw ac y gwyddom yn gorfforol yn ein cyrff yw'r teimlad o weld ffurf gron, ffurf sy'n hollol gryno, ffurf a all gyffwrdd â ffurfiau tebyg mewn un man yn unig, ffurf sydd â man canol penodol iawn.' Prynodd Gwendoline Davies y gwaith hwn ym Mharis ym 1920.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.