Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Gwen Hester
“Mae [hiliaeth] dal yma dan yr wyneb, hyd heddiw...”
Ganed Gwen Hester, aelod o’r teulu Broodie, yn St Kitts yn y Caribî. Daeth i Gasnewydd i ymuno â’i rhieni pan roedd hi’n ferch ifanc.
“Y cwbl rwy’n ei gofio am St Kitts yw’r grawnwin, rhai du... ‘grawnwin y môr’ a dim ond wrth y môr maen nhw’n tyfu.”
“Roedd fy rhieni yma’n barod. Roedd fy mam yn gweithio fel nyrs ym Mhrydain... fy mam-gu, mam fy nhad, oedd yn edrych ar fy ôl.“
“Âi hi â fi i bobman gyda hi... dynes yr eglwys oedd hi, ac roedd hi’n mynd â mi i’r eglwys gyda hi gyda’r nos ac ar ddyddiau Sul ac yn ystod yr wythnos.”
“Roedd hi’n ddylanwad mawr arna i, arferai ddweud wrthyf, ‘os oes gen ti bunt, gwna’n siŵr dy fod yn cynilo 50 ceiniog, cynila hanner faint bynnag sydd gen ti’.”
“Roeddwn i yn yr ysgol iau pan ddois draw i’r Deyrnas Unedig.”
“Fi yw’r hynaf o naw o frodyr a chwiorydd... fe ddaethom i Brydain fesul dau... roeddwn i yn yr ail set [i ddod yma].”
“Teipio a llawfer oedd hi yn y dyddiau hynny, roeddwn i’n gweithio yno [fel teipydd] am 25 mlynedd. Fe gefais i lawer o hiliaeth yno... [ond] fe ges i’r swydd a freuddwydiais amdani fel plentyn.”
“ Mae [hiliaeth] dal yma dan yr wyneb, hyd heddiw ...”
“Fy ffrind, pan roedd hi’n mynd i’r eglwys, roedden nhw’n ei symud o’i sedd... y rheswm y gwnaeth bobl India’r Gorllewin sefydlu eu heglwys eu hunain yw am nad oedd croeso iddyn nhw yn yr eglwysi yn unman...dydyn nhw ddim yn eich ystyried yn gyfartal â nhw.”
“Rwyf wedi bod yng Nghasnewydd nawr ers tua 50 mlynedd, amser hir, on’d yw e, amser hir iawn, iawn.”