Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Pont Rialto a'r Palazzo dei Camerlenghi
Mae'r olygfa hon o Fenis yn arddangos rhai o dechnegau arloesol Sickert, yn enwedig gyda lliw a phersbectif. O edrych yn ofalus, gellir gweld o dan y paent, y grid coch a ddefnyddiodd i gopïo'r ddelwedd i'r cynfas o ddarlun, ysgythriad neu o ffotograff o bosibl. Daw'r cyfosodiad hwn o banorama mwy sy'n ymestyn i ddangos Pont Rialto yn ei chyfanrwydd.
Gellir gweld arlliw o ddylanwadau artistig Sickert yn y paentiad hefyd. Mae'r donyddiaeth gynnil a'r amlinellu tywyll yn debyg i Nosluniau ac Ysgythriadau Fenisaidd ei fentor cynnar Whistler. Roedd cysylltiad agos rhyngddo â'r Argraffiadwyr Ffrengig hefyd, a gellir cymharu sawl agwedd o'i waith â 'Palazzo Dario' gan Monet (yn yr oriel drws nesaf), a baentiwyd yn ddiweddarach ym 1908.
Ymddangosodd y gwaith hwn yn arddangosfa unigol bwysig Sickert yn y Galerie Bernheim Jeune ym Mharis, 1904. Y beirniad celf Ffrengig, Adolphe Tavernier oedd perchennog cyntaf y llun. Yn ddiweddarach, bu'n eiddo i Hugo Pitman, casglwr pwysig o gelf Argraffiadol Prydeinig.