Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad clyweledol / Audio-visual recording: Dr Grace Kerry
“Mae’n deimlad fy mod i’n rhoi rhywbeth cadarnhaol yn ôl i gymdeithas.”
Ganed Dr Grace Egbolum Kerry yn Nigeria ac mae’n ddinesydd y Gymanwlad.
“Fi yw Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gweithredol y Gift of Grace Education Project, sy’n weithredol yn Nigeria. (www.giftofgraceproject.org).”
“Cefais fy ngeni yn Nigeria ac rwy’n ddinesydd y Gymanwlad. Dewisais yrfa ym myd addysg, ac enillais Ph.D mewn Anghenion Addysgol Arbennig o Brifysgol Cymru Caerdydd ym 1985.”
“Bûm yn athrawes ysgol uwchradd ym Mryste o 1989 hyd at 1992, athro cynghorol ESOL yng Ngwent (ysgolion uwchradd a chynradd) ac roeddwn yn aelod o’r Tîm Arolygu Ysgolion o 1992 hyd at 1997. Roedd hiliaeth yn y gweithle yn fythol bresennol ond fe’i goddefwyd.”
“Bûm yn ddarlithydd i’r Brifysgol Agored o 1991 hyd at 1999 ac yn diwtor iaith yng Nghanolfan Iaith y Parade yng Nghaerdydd o 2000 hyd at 2004.”
“Rwy’n Llysgennad Heddwch i’r Universal Peace Federation (UPF).”
“Roedd fy ngyrfa’n nodedig am fy ffocws dyfalbarhaus ar ansawdd ac effeithlonrwydd ac oherwydd gofal gwirioneddol am bobl. Carwn feddwl fy mod wedi meithrin, ysbrydoli, ysgogi ac annog pobl ifanc ac oedolion i gyflawni pethau gwych.”
“Rwy’n meddwl y byd o’r Deyrnas Unedig oherwydd mai yma mae fy nghartref wedi bod ers dros hanner canrif, ac rwyf wedi gwneud nifer o ffrindiau da yma. Er gwaethaf rhai profiadau anodd sydd wedi fy wynebu dros y blynyddoedd, mae fy nheulu a finnau wedi ffynnu yn y Deyrnas Unedig ac rydym yn hapus.”
“Mae gen i ddau brif angerdd mewn bywyd: 1. Addysgu plant, (genethod yn enwedig) oherwydd “DIM OND YR ADDYSGEDIG SY’N RHYDD” a 2. Bwydo plant oherwydd “MAE IECHYD YN GYFOETH”.
“Dros fyd tecach: Gwnewch i eraill fel y dymunech i eraill ei wneud i chi.”