Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Answer book
Llyfr Ateb Amgueddfa Werin Cymru, 1958, gan D. R. Cledlyn Davies (ganwyd yn 1875 yn Llanybydder) am ardal Llanwenog, Sir Aberteifi. Mae'r Llyfr Ateb yn cynnwys nodiadau am hanes enwau personol a chyfenwau yr ardal, y traddodiad neithior cefn gwlad yn 1892 a chyfnewidiadau mewn pentref gwledig. Wedi atodi hefyd mae llythyr gan D. R. Cledlyn Davies yn rhoi manylion bywgraffiadol. Anfonwyd Llyfrau Ateb gan Amgueddfa Werin Cymru ym 1958 at unigolion ar draws Cymru er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am agweddau o ddiwylliant gwerin yn eu hardaloedd yn cynnwys amaeth, crefftau, bwyd, arferion a thafodiaith. Mae’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw yn y llyfrau. Roedd y Llyfrau Ateb yn ddilyniant i’r holiaduron a anfonwyd ym 1937.