Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Coeden
Enillodd y gwaith hwn Wobr Brynu Ymddiriedolaeth Derek Williams yn Artes Mundi 3. Ffilm ddogfen yw hon sy’n edrych ar ddynion ifanc yn trafod a myfyrio ar dorri coeden a dwyn ffrwyth. Yn y drafodaeth maen nhw’n esbonio bod y goeden yn lleoliad sawl dienyddiad, a bod rhaid ei thorri i lawr.
Lluniau llonydd o waith celf fideo yw’r rhain. Caiff ffilmiau celf eu creu gyda gofod neu brofiad penodol mewn golwg. Oherwydd hyn, ac oherwydd rhesymau hawlfraint, ni allwn ddangos y gwaith llawn ar-lein.